Gorfodir llawer o droseddwyr Gogledd Cymrui deithio ymhell iawn i dreulio eu hamser mewn carchar. Gall hyn olygu gofid a dryswch meddwl i’r carcharor a’i deulu. Gall y cam o ddod adra’ hefyd fod yr un mor anodd. Dyna pam y mae BARA yn cynnig help i bobl adra’, yn gyn-droseddwyr neu yn deuluoedd. Rydym yn dibynnu ar wasanaeth gwirfoddolwyr er mwyn gwneud y gwaith yn bosib’. Cynigir clus ti wrando yn ogystal â chymorth ymarferol lle mae modd.
Mae anghenion pob unigolyn yn wahanol. Mae rhai angen cymorth ar sut i ganfod llety, neu ddelio gyda chamddefnydd alcohol a chyffuriau eraill. Bydd eraill angen anogaeth gyda gwaith, addysg neu hamdden. Bwriad pennaf BARA yw cynnig cefnogaeth a chwmni ar y daith lle mae pobl ei angen.

HMP Altcourse, Brookfield Drive, Fazakerley, Liverpool L9 7WU
t: 0151 522 2000
s: 07960 944 642
e: help@bara.uk.net